All content for Clera is the property of Clera and is served directly from their servers
with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera, lle mae barddoniaeth Gymraeg yn cael sylw haeddiannol! Y mis hwn, byddwn yn pwnco ynglŷn â'r traddodiad o ganu ffug-farwnadau. Cawn hefyd gerdd newydd sbon gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood o'i chyfrol newydd, 'Mae' (Cyhoeddiadau Barddas) ac fe fyddwn ni hefyd yn holi'r Prifardd Llŷr Gwyn lewis am ei gyfrol newydd yntau, 'Holl Lawenydd Gwyllt' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a llawer mwy o'r perlau a'r dwli arferol!
Diolch i Llŷr Gwyn am y llun sydd ar y clawr.