All content for Clera is the property of Clera and is served directly from their servers
with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.
Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer.
Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi gan Tudur Dylan ac mae ein beirniad llym, Gruffudd Antur yn ei ôl i ddewis y llinell gynganeddol ddamweiniol y mis orau ar gyfer mis Rhagfyr. Hyn oll, a mwy o'r dwli arferol!
Ac os hoffech wneud cyfraniad ariannol i'n helpu ni i ddatblygu'r podlediad, ewch i: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera
Nadalek llawen i chi gyd!