Home
Categories
EXPLORE
True Crime
Comedy
Society & Culture
Business
Sports
History
Technology
About Us
Contact Us
Copyright
© 2024 PodJoint
00:00 / 00:00
Sign in

or

Don't have an account?
Sign up
Forgot password
https://is1-ssl.mzstatic.com/image/thumb/Podcasts122/v4/5f/02/4f/5f024f65-78d0-bbfd-728a-d1cfc6a46751/mza_15198141203134544244.jpg/600x600bb.jpg
Beti a'i Phobol
BBC Radio Cymru
639 episodes
5 days ago

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Show more...
Personal Journals
Society & Culture
RSS
All content for Beti a'i Phobol is the property of BBC Radio Cymru and is served directly from their servers with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Show more...
Personal Journals
Society & Culture
Episodes (20/639)
Beti a'i Phobol
Ani Glass

Ani Glass yr artist electro-pop o Gaerdydd yw gwestai Beti George. Enillodd ei halbwm cyntaf Mirores wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac mae ei hail albwm Phantasmagoria newydd ei rhyddhau. Cawn hanesion difyr ei bywyd o'r sîn gerddoriaeth, i'w chefndir mewn ffasiwn, a'i chariad tuag at Lerpwl a'r Beatles. Yn y 5 mlynedd diwethaf mae hi wedi croesawu merch fach i'r byd, ac mae hi'n fyddar. Mae Ani yn sôn am ddysgu BSL ac am gyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth gynhwysol. Fe gafodd Ani hefyd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd, ac mae'r albwm diweddaraf Phantasmagoria yn gasgliad o ganeuon sydd yn ymateb i'r byd o'i chwmpas. Ymysg ei dewisiadau cerddorol mae 'Pan Ddaw Yfory' gan Caryl Parry Jones a darn 'Mishima/Closing' gan artist sydd wedi ei dylanwadu, Philip Glass.

Show more...
5 days ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Rhai o uchafbwyntiau Beti a'i Phobol 2025

Rhaglen wahanol i'r arfer i nodi diwedd blwyddyn arall.

Pytiau o rai o sgyrsiau Beti a'i Phobol 2025, gan ddechrau gyda dwy bennod gynta’r flwyddyn - tad a merch yn sôn am y hunlle brofon nhw fel teulu oherwydd ymddygiad anfaddeuol y Swyddfa Bost. Cawn glywed stori Siân Thomas a Noel Thomas.

Fe awn wedyn i China i sgwrsio a Teleri Wyn Davies. Mae hi yn byw yn Shenzen, yn ne-ddwyrain y wlad, a'i gwaith yno yw hyfforddi rygbi merched.

Fe gafodd Beti gwmni Glenda Jones-Williams o Frynaman yn wreiddiol sydd â swydd uchel yng nghwmni anferth Coca Cola. Mae'n is-lywydd pobol a diwylliant y cwmni yng ngogledd Ewrop, Asia ac ardal y Môr Tawel ac mae'n teithio'r byd gyda'i gwaith.

Mae bywyd wedi bod yn hectic i'r awdur, y cyfansoddwr a'r dramodydd Daf James yn ddiweddar oherwydd llwyddiant ysgubol ei gyfres ddrama - Lost Boys and Fairies. Ond fe lwyddodd i dreulio awr fach yng nghwmni Beti George.

Fe gawn hefyd gwmni'r Pianydd byd enwog o Bentrebychan, Llŷr Williams, Georgia Ruth, Mark Williams, Jess Davies, yr artist Gareth Parry a'r meddyg Dr Llinos Roberts.

Show more...
1 week ago
50 minutes

Beti a'i Phobol
Gwerfyl Eidda

Mae'r gwestai heddiw, sydd ychydig dros ei phedwar deg mlwydd oed, ar ei pumed swydd. Bu Gwerfyl Eidda yn gweithio gyda Mentrau Iaith yn annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg. Am 5 mlynedd bu'n diddanu teithwyr ar longau pleser yn canu. Mae wedi cynghori pobol sydd am ddechrau busnes, bu'n gweithio i Ferched y Wawr, ac fe ysgrifennodd lyfr coginio poblogaidd yn seiliedig ar ryseitiau a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. A nawr mae hi'n gyrru bysus ac wrth ei bodd yn gyrru yn Ewrop. Mae'n credu'n gryf y gall pobol gyflawni unrhyw beth maen nhw eisiau mond iddyn nhw gael ffydd yn eu gallu eu hunain. Daw Gwerfyl yn wreiddiol o Gwm Eidda, ger Ysbyty Ifan.

Show more...
2 weeks ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Edwin Humphreys

Beti George yn holi y cerddor a'r cyn nyrs Edwin Humphreys.

Nid yn aml mae Beti yn cael gwestai sydd wedi cael gyrfa mor amrywiol â hynny mewn meysydd mor wahanol i'w gilydd.

Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed fe aeth Edwin Humphreys i'r fyddin a bu'n aelod o Fand Pres Catrawd Hussars. Yna bu'n gerddor yn chwarae gyda sawl band Cymraeg ac wedyn fe aeth i'r Brifysgol yn 30 mlwydd oed i astudio cerdd - ond wedi iddo raddio, doedd dim digon o waith ac felly penderfynodd gael gradd arall mewn nyrsio.

Treuliodd flynyddoedd yn nyrsio mewn meysydd heriol, ac wedi ymddeol o'r swydd yna fe gafodd swydd arall yn gweithio gyda Gwasanaeth Cerdd Gwynedd.

Mae'n Dad balch i 3 o blant ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys un gan y grŵp Pys Melyn gan fod ei fab Ceiri yn y band.

Show more...
1 month ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Sioned Fôn Jones

Sioned Fôn Jones, gwyddonwraig ifanc o bentref Waunfawr, Gwynedd yw gwestai Beti George.

Mae wedi creu cwmni Booby Biome yn Llundain. " Ni oedd y cwmni cyntaf o'i fath yn y maes yma" meddai Sioned. Maen nhw'n creu llaeth sydd yn debyg i laeth y fron, "mae'n cocktail o facteria perffaith i fabi" tebyg i probiotic sydd wedi ei ddylunio o laeth y fron gan griw o wyddonwyr ifanc. Y gobaith ydi y bydd yn cael ei gyflwyno i ysbytai, wardiau babis flwyddyn nesa. Mae’r cwmni wedi tyfu ers ei sefydlu yn 2019. Fe sefydlwyd y cwmni yn Ysbyty Great Ormond Street , gan mae dyma’r ysbyty plant gorau yn y byd ac mae’r ymchwil sydd yn cael ei wneud yno yn arwain y ffordd mewn sawl maes o fewn iechyd plant.

Mae gan Sioned lawer o uchafbwyntiau i’w gyrfa. Un pennaf oedd ennill lle ar restr ‘Forbes 30 Under 30’ llynedd. Mae’r wobr yma yn ddathliad o 30 o bobl o dan 30 oed sydd wedi gwneud cyfraniad nodweddiadol yn eu maes ac wedi cyflawni rhywbeth arbennig.

Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys darn piano arbennig wnaeth y diweddar Annette Bryn Parri ei chwarae i'w diweddar Dad.

Show more...
1 month ago
41 minutes

Beti a'i Phobol
Dr Brython Hywel.

Beti George yn holi Dr Brython Hywel.

Bod yn ddeintydd oedd ei uchelgais cyntaf ond ar ôl profiad gwaith yn ysbyty Glan Clwyd fe newidiodd ei feddwl, er bod meddyg ifanc yn fanno wedi dweud wrtho beidio mynd yn feddyg. Ond tydi o ddim wedi difaru anwybyddu cyngor y doctor ifanc ac erbyn hyn wedi blynyddoedd lawer o astudio a hyfforddi mae wedi cyrraedd y brig ac yn arbenigo mewn maes Niwroleg a Niwroffisioleg.

Magwyd Brython yn Llangernyw, Dyffryn Conwy. Enillodd ei radd feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2008 cyn gweithio yng ngogledd Cymru am bedair blynedd fel meddyg iau, lle ymgymerodd â'i hyfforddiant sylfaen yn Ysbyty Glan Clwyd a hyfforddiant meddygol craidd yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Tra roedd yno, fe ymgeisiodd i gael hyfforddiant yn Lerpwl fel Niwrolegydd. Ar ôl cwblhau hyfforddiant uwch yng Nghanolfan Walton – canolfan arbenigol y GIG ar gyfer Niwroleg – o 2012 i 2019, dechreuodd fel Niwrolegydd Ymgynghorol a Niwroffisiolegydd Clinigol ym mis Awst 2019.

Mae Brython bellach yn bennaeth yr adran Niwroffisioleg yng Nghanolfan Walton lle mae’n gwneud gwaith EMG ac EEG. Mae Brython hefyd yn gwneud clinigau niwroleg ac adolygiadau ward yn Ysbyty Gwynedd. Cawn hanes difyr ei fywyd a'i waith ac mae'n dewis 4 darn o gerddoriaeth yn cynnwys Cymru, Lloegr a Llanrwst, gan Y Cyrff. Roedd tad Brython yn diwtor dosbarth ar Mark Roberts Y Cyrff yn Ysgol Dyffryn Conwy.

Show more...
1 month ago
49 minutes

Beti a'i Phobol
Jâms Powys

Beti George sydd yn holi'r peilot Jâms Powys.

Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni awyrennau British Airways ac mae'n cyfarch y teithwyr yn Gymraeg.

Ers yn blentyn bach doedd dim byd arall yn apelio fel gyrfa, ac fe ddechreuodd hedfan cyn iddo yrru car.

Cawn glywed ei hanesion yn hedfan i Efrog Newydd, Nigeria a Mecsico. Mae'n sôn am gyfnod Covid ac effaith hynny ar y diwydiant, ac am newidiadau sydd tuag at danwydd mwy gwyrdd yn sgil newid hinsawdd.

Show more...
1 month ago
44 minutes

Beti a'i Phobol
Jane Richardson

Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru.

Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau.

Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ddysgodd Gymraeg.

Ddwy flynedd yn ôl fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Amgueddfa Genedlaethol, a hynny ar adeg heriol iawn yn hanes y sefydliad.

Show more...
2 months ago
47 minutes

Beti a'i Phobol
Mari Huws

Beti George yn holi Mari Huws - warden ar Ynys Enlli.

Fe gafodd Mari ei magu yng Nghaernarfon a Phenygroes, ac fe gafodd brofiad yn ifanc o deithio hefo'r teulu, gan gynnwys mynd i Ynys Enlli.

Treuliodd gyfnodau yn gwirfoddoli a gweithio yn Costa Rica, Nicaragua, Siapan ac Indonesia.

Mae hi wedi cynhyrchu ffilmiau dogfen, a Mari oedd yn gyfrifol am y prosiect 'Olew Drwg' sy'n trafod y diwydiant olew palmwydd yn Indonesia, a dangoswyd ei ffilmiau ar Hansh.

Teithiodd i'r Arctig hefyd i ffilmio ar gyfer ei phrosiect ymchwil ar lefelau llygredd plastig.

Bu'n gweithio ym myd teledu hefyd cyn cael swydd fel warden ar Ynys Enlli, ac mae hi yno bellach ers chwe blynedd.

Show more...
2 months ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Nolwenn Korbell

Beti George yn holi Nolwenn Korbell.

Llydawes wnaeth syrthio mewn cariad hefo'r Gymraeg ydi Nolwenn, a hynny ers pan oedd hi'n blentyn yn mynd gyda'i mam bob blwyddyn i'r Gyngres Geltaidd.

Fe dreuliodd gyfnod yng Nghymru, a bu'n canu gyda Bob Delyn a'r Ebillion.

Ar ôl mynd yn ôl i Lydaw aeth ei gyrfa fel cantores o nerth i nerth gan gyrraedd y brig. Mae hi wedi rhyddhau saith albym hyd yn hyn.

Show more...
2 months ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Marcus Whitfield

A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Marcus Whitfield.

Mae Marcus yn siaradwr newydd sydd mor frwd dros yr iaith nes iddo fynd ati i agor canolfan yn Llanbedr Pont Steffan i ddod â dysgwyr at ei gilydd i ymarfer yr iaith, a chodi eu hyder.

Wedi sawl ymdrech ar ddysgu'r iaith, yr ysgogiad mawr i Marcus ail afael ynddi oedd mynd i Euro 2016 a glanio yng nghanol cymaint o siaradwyr Cymraeg.

Mae'n dod yn wreiddiol o Fwcle yn Sir Y Fflint, ond mae o bellach yn byw yn swydd Caint, ac mae ganddo sawl dosbarth dysgu Cymraeg yn Lloegr.

Show more...
2 months ago
45 minutes

Beti a'i Phobol
Dafydd Roberts

Dafydd Roberts yw gwestai Beti George.

Mae'n gerddor ac yn gynhyrchydd, ac yn aelod o'r grwp gwerin poblogaidd Ar Log, sy'n hanner cant oed flwyddyn nesaf.

Pan yn ifanc, roedd Dafydd a'i fryd ar fod yn feddyg, ond Seicoleg oedd ei bwnc ym Mhrifysgol Bangor.

Mae wedi protestio ac ymgyrchu dros yr iaith, ac yn ddiweddarach dros chwarae teg i gerddorion.

Bu'n gynhyrchydd teledu ac yn brif weithredwr cwmni Sain.

Mae wedi teithio'n helaeth, a cherddoriaeth yw'r llinyn cyswllt drwy'r cyfan.

Mae'n chwarae sawl offeryn gan gynnwys y delyn deires, ac yn un o ddisgyblion Nansi Richards.

Show more...
3 months ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Dr Celyn Kenny

A hithau'n Fis Ymwybyddiaeth Canser Plant, mae Beti George yn holi Dr Celyn Kenny.

Meddyg sydd yn gweithio gyda phlant sy'n dioddef o ganser yw Celyn.

Doedd hi ddim yn hawdd iddi gael lle ar y cwrs Oncoleg Plant gan fod 'na gyfyngu ar y nifer, ond llwyddodd i ddod yn gyntaf drwy Brydain.

Mae hi newydd dreulio chwe mis yn Ysbyty Great Ormond Street, a bellach mae hi'n ôl yn gweithio ar Ward Arch Noa yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae hi hefyd yn darlithio ar y cwrs meddygaeth - cyfrwng Cymraeg, sydd yn bwysig iawn iddi, ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn un o'r meddygon ar raglen 'Prynhawn Da' ar S4C.

Show more...
3 months ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Dr Gareth Evans-Jones

Beti George yn holi Dr Gareth Evans-Jones.

Mae Gareth yn awdur, bardd a dramodydd ac wedi ennill Y Fedal Ddrama ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe gafodd fagwraeth gymhleth, ac fe wahanodd ei rieni pan oedd yn bump oed.

Aeth i Brifysgol Bangor, a chael gradd meistr a doethuriaeth, ac ennill sawl gwobr hefyd.

Mae Gareth bellach yn gweithio fel darlithydd yn Adran Grefydd ac Athroniaeth Prifysgol Bangor, ac mae Iddewiaeth a Phaganiaeth yn feysydd y mae’n arbenigo ynddyn nhw.

Ef yw sylfaenydd Clwb Darllen Llyfrau Lliwgar.

Show more...
3 months ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Beth Winter

Beth Winter cyn aelod seneddol dros Gwm Cynon yw cwmni Beti George.

Fe dreuliodd ei phlentyndod yn Aberdâr, ac roedd ymgyrchu dros achosion gwahanol yn ganolog i'r teulu.

Fe gafodd ei hethol i Senedd San Steffan yn 2019 wedi Ann Clwyd benderfynu peidio sefyll. Fe unwyd Cwm Cynon a Merthyr Tudful ac o ddau aelod seneddol, hi gollodd y dydd yn etholiad 2024.

Fe aeth Beth i’r brifysgol ym Mryste i astudio polisi cymdeithasol, ac fe wnaeth hi fwynhau ei chyfnod yno yn fawr iawn. Tra yn y brifysgol roedd hi’n gwneud llawer o waith gwirfoddol gyda phobl ddigartref ym Mryste, yn helpu mewn ‘night shelters’ ac ati.

Bu'n gweithio yn Southampton am gwpwl o flynyddoedd, cyn dychwelyd i'r cymoedd. Mae hi bellach yn byw ym Mhenderyn ger Aberdâr ac yn weithgar gyda gwaith ym maes ynni cymunedol a Cymunedoli ac yn Fam i 3 o blant.

Show more...
3 months ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Ffrancon Williams

Beti George sydd yn holi Ffrancon Williams - cyn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai 'Adra'.

Fe'i magwyd ym Mangor.

Fe astudiodd Ffrancon Beirianneg Electroneg yn y brifysgol, ond penderfynodd newid maes ar ôl sylweddoli ei fod eisiau gweithio yng nghanol pobl, ac eisiau gwneud gwahaniaeth i'w bywydau.

Treuliodd gyfnod yn gweithio i British Standards, cyn mynd i weithio i gwmni preifat oedd yn ymwneud yn bennaf â diogelwch ar y rheilffyrdd.

Dychwelodd adref i Ogledd Cymru ar ôl derbyn swydd yn Adran Dai Cyngor Gwynedd, ac yna fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai 'Adra'.

Mae'n gwirfoddoli gyda Beiciau Gwaed Cymru.

Show more...
4 months ago
47 minutes

Beti a'i Phobol
Mel Owen

Beti George yn holi Mel Owen - cyflwynydd, awdur a digrifwr.

Fe'i magwyd yng Nghapel Seion ger Aberystwyth, ac aeth i Brifysgol Caerdydd.

Wedi iddi weithio yn y maes gwleidyddol pan yn ifanc, mae Mel Owen bellach yn gyflwynydd ar y cyfryngau Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys y rhaglen 'Ffermio' ar S4C.

Mae hi hefyd i'w gweld ar lwyfannau comedi stand up, a llynedd fe gafodd gryn lwyddiant yng Ngŵyl Caeredin.

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar gomedi ar gyfer Netflix.

Hi yw awdur y llyfr 'Oedolyn(ish!)

Show more...
4 months ago
48 minutes

Beti a'i Phobol
Llŷr Williams

Beti George sydd yn holi'r pianydd sydd yn adnabyddus trwy'r byd, Llŷr Williams.

Cafodd ei fagu yn Pentre Bychan, Wrecsam ac mae dal i fyw yno. Mae wedi perfformio mewn neuaddau megis Carnegie Hall, Efrog Newydd, ac wedi llenwi neuadd fawr yn y Moscow Conservatory, Rwsia. Mae wedi teithio i berfformio'n Tokyo a Mecsico ac yn rhannu eu straeon difyr.

Mynychodd Ysgol Gynradd ID Hooson yn Rhosllannerchrugog, cyn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd. Yn Dilyn pynciau Cerddoriaeth, Cymraeg a Saesneg, cyn mynd ymlaen i gael gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines yn Rhydychen (Queens College Oxford) ac yna yn gorffen ei addysg yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.

Fe wnaeth Llŷr basio gradd 8 ar y piano yn 11 mlwydd oed, ac fe gafodd "distinction" ymhob un.

Mae'n ymarfer y piano am 6 awr y dydd - ac yn dal i ddarganfod pethau newydd, ac yn mwynhau cerdded yn ei amser sbâr i ymlacio.

Show more...
5 months ago
46 minutes

Beti a'i Phobol
Llinos Roberts

Llinos Roberts o Rosllannerchrugog yw gwestai Beti George, mae hi'n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Yn wreiddiol o’r ardal, mae hi wedi byw a gweithio yn y sir fwy neu lai ar hyd ei hoes, ac mae'n Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria. Mae 3 mlynedd wedi pasio ers i Aled Roberts ei gŵr farw yn sobor o ifanc yn 59 mlwydd oed. Bu Aled Roberts yn Gomisiynydd y Gymraeg ac mae ganddynt ddau o fechgyn, sef Osian ac Ifan. Mae Llinos yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl Droed Wrecsam ac wedi eu dilyn ers yn ferch fach. Cawn hanesion difyr ei magwraeth a'i bywyd ac mae hi'n dewis ambell gân gan gynnwys John's Boys.

Show more...
5 months ago
49 minutes

Beti a'i Phobol
Wyn Davies

Beti George yn sgwrsio gyda chyn-ymosodwr Cymru, Wyn Davies.

Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol yn 2003.

Show more...
5 months ago
40 minutes

Beti a'i Phobol

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people