Home
Categories
EXPLORE
True Crime
Comedy
Sports
Society & Culture
Business
News
History
About Us
Contact Us
Copyright
© 2024 PodJoint
00:00 / 00:00
Sign in

or

Don't have an account?
Sign up
Forgot password
https://is1-ssl.mzstatic.com/image/thumb/Podcasts115/v4/97/9c/f4/979cf455-dc45-88fe-e1d6-9c556f98859b/mza_11774836372069102387.png/600x600bb.jpg
Hefyd
Richard Nosworthy
28 episodes
3 days ago
Podlediad am fywydau’r bobl anhygoel sy’n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg. A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language. Cyflwynydd: Richard Nosworthy
Show more...
Society & Culture
RSS
All content for Hefyd is the property of Richard Nosworthy and is served directly from their servers with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.
Podlediad am fywydau’r bobl anhygoel sy’n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg. A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language. Cyflwynydd: Richard Nosworthy
Show more...
Society & Culture
Episodes (20/28)
Hefyd
Walter Brooks: O Batagonia i Gymru (o'r archif) | Pennod 28
Stori anhygoel Walter Brooks o Batagonia. Ar ôl clywed straeon am ei nain, oedd yn siarad Cymraeg yn yr Ariannin, dysgodd Walter yr iaith ei hun. Aeth ei gariad at y Gymraeg â fe i Gymru, ble mae e'n byw o hyd. Dyma ail gyfle i fwynhau stori Walter - tra fy mod i'n recordio penodau newydd, rwy'n ail-rannu sgyrsiau o'r archif. Cyhoeddwyd y sgwrs wreiddiol yn Chwefror 2021. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Hoffech chi fod yn y gyfres nesaf? Dyma'r manylion i gyd (dyddiad cau 5/12/2025). Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts
Show more...
1 week ago
1 hour 4 minutes

Hefyd
Jazz Owen: Dysgu ac addysgu yn Sir Benfro | Pennod 27
Y tro yma rwy'n siarad gyda Jazz Owen (née Jazz Langdon). Mae Jazz yn byw yn Sir Benfro. Athrawes ydy hi, mewn ysgol gynradd. Mae Jazz wedi dysgu Cymraeg er mwyn helpu'r plant gyda'r iaith, ac mae hi'n helpu athrawon eraill hefyd. Yn y pennod yma 'dyn ni'n trafod yr iaith Gymraeg yn y sir, profiadau o ddysgu Cymraeg i blant mewn ysgol Saesneg, a sut dysgodd hi'r Gymraeg mewn cwrs dwys. Hefyd mae hi'n rhannu ei phrofiad o ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn ystod y pandemig yn 2020! Recordion ni'r sgwrs yma ym mis Rhagfyr 2024. Dyma'r pennod olaf o'r gyfres - cysylltwch â fi os hoffech chi fod yn westai yn y gyfres nesaf.  *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts
Show more...
1 month ago
33 minutes

Hefyd
Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26
Y mis yma fy ngwestai i ydy Daniel Minty, sy'n dod o Abertyleri yng nghymoedd y de-ddwyrain. Trwy'r sîn gerddorol a darlledu wnaeth e ddechrau dysgu'r iaith. Sefydlodd e Minty's Gig Guide, mae e wedi bod yn rhan o Wyl Sŵn yng Nghaerdydd ac wedi gweithio gyda BBC Cymru a Gorwelion/Horizons. Pan recordion ni ein sgwrs ym mis Hydref 2024, roedd Daniel yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mewn swydd gyda Menter Casnewydd. Ers i ni recordio mae e wedi newid swydd, a nawr (Medi 2025) mae e'n gweithio gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. *** Diolch i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith am awgrymu cyfweld â Daniel. Ennillodd e wobr 'Dechrau Arni: Dysgwr Cymraeg' yn y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion. Rwy'n cyhoeddi'r podlediad yma yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (15-21 Medi 2025). Mae’r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Os hoffech chi ddysgu sgil newydd ym mis Medi mae eu gwefan nhw yn cynnig adnoddau am ddim ar addysg yn cynnwys cyrsiau, sesiynau tiwtorial a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Gadewch sgôr (rating), anfonwch ebost: helo@richardnosworthy.cymru neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.  Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  
Show more...
2 months ago
39 minutes

Hefyd
Natasha Baker: ieithoedd, plant a sefydlu meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd | Pennod 25
Y mis yma ein gwestai ni ydy Natasha Baker. Un o Birmingham yn wreiddiol, mae hi wedi meistroli'r Ffrangeg ac wedi byw yn Ffrainc. Ers symud i Gymru mae hi wedi dysgu Cymraeg a sefydlu meithrinfa Gymraeg Wibli Wobli yng Nghasnewydd. Yn ein sgwrs rydyn ni'n trafod sut i helpu plant i siarad ieithoedd gwahanol, a'r her o ail-adeiladu ei busnes ar ôl tân mawr.  Recordiais i'r sgwrs gyda Natasha ym mis Hydref 2024. Tudalen Facebook Meithrinfa Wibli Wobli *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Gadewch sgôr (rating), anfonwch ebost: helo@richardnosworthy.cymru neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.  Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  
Show more...
3 months ago
32 minutes

Hefyd
Mike Parker: Ysgrifennu llyfrau a byw yn y Canolbarth | Pennod 24
Y tro yma mae'r awdur a darlledwr Mike Parker yn ymuno â ni. Mae Mike yn byw yng Nghanolbarth Cymru ers 2000 ac mae e wedi cyhoeddi sawl llyfr am Gymru a thu hwnt, megis Map Addict, On the Red Hill, ac All the Wide Border. Yn ein sgwrs rydyn ni'n trafod sut a pham y dysgodd e Gymraeg, ysgrifennu'r Rough Guide to Wales a'i brofiad o sefyll fel ymgeisydd gwleidyddol. Nes i recordio gyda Mike ym mis Hydref 2024. Gwefan Mike  *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Anfonwch ebost: helo@richardnosworthy.cymru neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.  Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
Show more...
4 months ago
40 minutes

Hefyd
Sara Peacock: S4C a dysgu Cymraeg yn y byd gwaith | Pennod 23
Helo eto! Y tro yma dwi'n siarad gyda Sara Peacock. O Loegr yn wreiddiol (ond gyda theulu yng Nghymru), priododd hi fenyw o Eryri a symudon nhw i Gaerdydd. Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg, ac mae'r iaith wedi agor drysau i swyddi newydd. Heddiw mae hi'n gweithio i S4C, ac yn ein sgwrs mae hi'n esbonio sut mae'r sianel yn cefnogi siaradwyr Cymraeg newydd. Ewch i wefan S4C er mwyn gweld yr holl rhaglenni ac adnoddau i ddysgwyr. Mae hwn yn cynnwys cylchlythyr dysgu Cymraeg a chyfrifon arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhowch wybod i fi beth dych chi'n meddwl am y pennod yma.  Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  
Show more...
5 months ago
40 minutes

Hefyd
Israel Lai: O Hong Kong i Fanceinion - miwsig, ieithoedd a Youtube | Pennod 22
Croeso'n ôl!  I ddechrau cyfres newydd, rwy'n siarad gydag Israel Lai. Mae Israel yn dod o Hong Kong yn wreiddiol, ond heddiw mae e'n byw ym Manceinion. Yn y pennod yma, rydyn ni'n clywed am ei brofiadau o symud i Loegr, dysgu Cymraeg a nifer o ieithoedd eraill, ei sianel Youtube, a chyfansoddi cerddoriaeth. Yn y sgwrs: Y llyfr mae Israel yn siarad amdano ydy Lleidr Penffordd gan Ifor Owen Allbwn ieithyddol Israel 'Rhapsody in Lingo' - ar ei Wefan, sianel Youtube ac Instagram Gwefan cerddorol Israel (Prynais i fiwsig newydd y podlediad o Sylvia Strand: www.screentales.co.uk) Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  
Show more...
6 months ago
42 minutes

Hefyd
Cyfres newydd!
Datganiad: Mae cyfres newydd ar y ffordd! Hoffech chi gymryd rhan? Dwi'n chwilio am bobl sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolion i fod yn westeion - manylion i gyd yma. Cyflwynydd: Richard Nosworthy Polisi preifatrwydd Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Pocket Casts
Show more...
1 year ago
1 minute

Hefyd
Diana Luft: Canada, Cymru, a Chymraeg Canol | Pennod 21
Yn y pennod olaf o'r gyfres yma, ein gwestai ydy Diana Luft, sy’n dod o Ganada yn wreiddiol. Mae Diana wedi astudio llawer o hen ddogfennau megis testunau meddygol (Plîs peidiwch â dilyn yr hen gyngor meddygol mae hi’n rhannu o’r oesoedd canol!) Heddiw, mae hi’n gweithio fel cyfieithydd, ac yn y sgwrs yma mae hi’n siarad am ei bywyd yn Nghanada a'r Unol Daleithiau, symud i Gymru, a’i phrofiadau o ddysgu Cymraeg. Mae mwy o wybodaeth am Diana ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  
Show more...
2 years ago
39 minutes

Hefyd
Barbara a Bernard Gillespie: ymddeol, grwpiau cymunedol a byw ar y ffin | Pennod 20
Ein gwesteion ni y tro yma ydy Barbara a Bernard Gillespie. Symudodd y cwpl o Wolverhampton yn Lloegr i ganolbarth Cymru ar ôl iddyn nhw ymddeol. Yn y blynyddoedd ers hynny maen nhw wedi dysgu Cymraeg ac maen nhw’n defnyddio’r iaith yn aml iawn. Yn y sgwrs yma rydyn ni’n trafod eu profiadau o symud i Gymru a dysgu’r iaith, y gweithgareddau a chlybiau cymdeithasol Cymraeg yn eu hardal nhw, a thraddodiad y Plygain yn ystod cyfnod y Nadolig. Mae mwy o wybodaeth am Barbara a Bernard ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
Show more...
2 years ago
37 minutes

Hefyd
Steve Dimmick, Dyn Busnes o’r Cymoedd | Pennod 19
Ein gwestai ni y tro yma ydy Steve Dimmick, cyd-sylfaenydd (co-founder) y cwmni Doopoll, sy’n gwneud arolygon ar lein (online surveys). Cafodd e ei fagu yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, ac ar ôl cyfnod yn Abertawe a Llundain mae e'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Yn y pennod yma, rydyn ni’n trafod y Gymraeg yn y byd busnes a thechnoleg, yn ogystal â phrofiadau Steve o dysgu’r iaith a’i defnyddio hi gyda theulu, ffrindiau ac yn y gymuned. Hefyd yn y pennod yma rwy’n rhannau rhai o’ch atebion i’r #CwestiwnYMis ar Twitter: ‘Dysgwyr: ble rwyt ti'n defnyddio dy Gymraeg?’. Mae mwy o wybodaeth am Steve, gyda geirfa o'r pennod yma a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  
Show more...
3 years ago
37 minutes

Hefyd
Jo Heyde, Bardd o Lundain | Pennod 18
Yn y pennod yma rwy'n siarad gyda Jo Heyde. Dechreuodd Jo ddysgu ar ôl treulio gwyliau yng Nghymru a chlywed sgwrs Cymraeg yn y gwasanaethau traffordd! Erbyn hyn mae hi’n rhan o’r gymuned Gymraeg yn Llundain, ac mae hi wedi darganfod barddoniaeth ac ennill gwobrau am ei cherddi! Hefyd yn y pennod yma rwy’n rhannau rhai o’ch atebion i’r ‘Cwestiwn Y Mis’ postiais i ar Twitter ‘Pam wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?’. Mae gwybodaeth am Jo, gyda geirfa a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
Show more...
3 years ago
20 minutes

Hefyd
Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn 2022 | Pennod 17
Yn y pennod yma rwy'n sgwrsio gyda Joe Healy, ennillydd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2022. Symudodd e i Gaerdydd o Lundain, er mwyn astudio yn y Prifysgol. Yn fuan iawn, roedd e wedi gwneud ffrindiau gyda Chymry Cymraeg a dechreuodd e ddysgu'r iaith. Trafodon ni sut mae siaradwyr Cymraeg yn gallu helpu dysgwyr, ei fand roc sy'n chwilio am enw (rhannwch eich syniadau!), a'r argraff positif mae pêl droed wedi gwneud o ran yr iaith. Gallwch chi weld lluniau o Joe ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
Show more...
3 years ago
43 minutes

Hefyd
Josh Osborne, Enillydd Medal y Dysgwyr | Pennod 16
Yn y pennod yma, dwi'n siarad gyda Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Mae Josh yn 24 oed ac yn dod o Poole yn Ne Lloegr yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae e'n byw yn Abertawe. Mae ei bartner e yn siarad Cymraeg, felly yn ystod y cyfnod clo (lockdown) penderfynodd e ddysgu'r iaith ar lein. Gallwch chi weld lluniau o Josh yn yr Eisteddfod, ac ymarfer ei hobi (ffitrwydd polyn) ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
Show more...
3 years ago
24 minutes

Hefyd
Rhian Howells, Awdur ac Athrawes o Ardal Abertawe | Pennod 15
Y mis yma, dwi’n siarad gyda Rhian Howells o ardal Abertawe. Mae Rhian yn athrawes mewn ysgol Saesneg sy’n angerddol am y Gymraeg. Yn ogystal â’i gwaith, mae hi’n awdur plant, ac yn y sgwrs rydyn ni’n trafod ei llyfr hi, 'Princess Pirate Pants'!  Mae mwy o wybodaeth amdani hi ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Show more...
3 years ago
21 minutes

Hefyd
Helgard Krause, Almaenes a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru | Pennod 14
Y tro yma rwy'n siarad gyda Helgard Krause. Cafodd Helgard ei magu yng ngorllewin yr Almaen. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi'n gweithio fel Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Rydyn ni'n trafod ei phlentyndod ger y ffin gyda Ffrainc, ei barn hi am Rwsia ac Wcráin, Ewrop a Brexit, ei chyngor neu 'tips' am ddysgu Cymraeg, ac wrth gwrs, llyfrau!  Mae mwy o wybodaeth, geirfa a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Show more...
3 years ago
43 minutes

Hefyd
Matt Davies, Ffan Chwaraeon o Benybont Ar Ogwr | Pennod 12
Y mis yma rydyn ni’n cwrdd â Matt Davies – ffan chwaraeon o Benybont Ar Ogwr. Mae Matt yn gweithio i Chwaraeon Cymru, y sefydliad sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn ein sgwrs, rydyn ni’n trafod pwysicrwydd chwaraeon, heriau a tips dysgu Cymraeg, a llwyddiant tîm pêl droed Cymru. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Show more...
3 years ago
18 minutes

Hefyd
Grant Peisley, Datblygwr Ynni a Thafarn Cymunedol o Awstralia | Pennod 11
Y mis yma rydyn ni'n clywed stori siaradwr Cymraeg o Awstralia, sy'n byw yn ardal Caernarfon, Gwynedd erbyn hyn. Mae Grant Peisley wedi cyfrannu'n fawr at gymunedau Cymreig - nid yn unig trwy ddysgu'r iaith, ond hefyd trwy prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Show more...
3 years ago
41 minutes

Hefyd
Dr Ben Ó Ceallaigh, Arbenigwr ac Ymgyrchydd Iaith o Iwerddon | Pennod 10
Y tro yma rwy'n siarad gyda'r arbenigwr ac ymgyrchydd iaith, Dr Ben Ó Ceallaigh, sy'n dod o Iwerddon yn wreiddiol. Pan roedd e'n ifanc, dechreuodd e siarad Gwyddeleg ar ôl dysgu mwy am hanes ei wlad. Symudodd e i Aberystwyth er mwyn gweithio yn y Brifysgol yno, ac wrth gwrs, dysgodd e Gymraeg hefyd. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Show more...
3 years ago
31 minutes

Hefyd
David Clubb, Amgylcheddwr ac Arbenigwr Technoleg | Pennod 9
David Clubb yw fy ngwestai y tro yma. Mae Dave yn dod o ardal Penybont ar Ogwr yn wreiddiol, ond heddiw mae e’n byw yng Nghaerdydd. Mae e’n gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac yn gweithio fel un o bartneriaid y cwmni Afallen. Mae e wedi dysgu Cymraeg, yn ogystal â sawl iaith arall, ac mae e wedi byw yn Sbaen, Denmarc ac India. Trafodon ni ei waith amgylcheddol a’i ddiddordeb mewn technoleg.  Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Show more...
3 years ago
36 minutes

Hefyd
Podlediad am fywydau’r bobl anhygoel sy’n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg. A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language. Cyflwynydd: Richard Nosworthy